Elusennau arloesol Cymru yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith
Mae gwasanaeth i bobl sy’n agored i niwed sydd wedi dylanwadu ar arferion gwaith ledled y DU a chwmni cydweithredol sy’n gyfrifol am ddargyfeirio gwerth £93,000 o fwyd rhag safleoedd tirlenwi ymhlith pedair elusen o Gymru sy’n cael cydnabyddiaeth am eu gwaith mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.
Tîm dylunio sy’n gwneud offer arbenigol i blant â chyflyrau ar eu hymennydd a phrosiect cymunedol lle mae 95% o’r trigolion wedi helpu i chwalu targedau ailgylchu oedd y rhai eraill a dderbyniodd un o Wobrau Trydydd Sector Cymru.
Cafodd y gwobrau eu trefnu gan y mudiad ymbarél Cyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru (WCVA) a’u cefnogi gan arbenigwr gwasanaethau’r sector gwirfoddol Class Telecommunications, a’u cyflwyno yng Ngwesty Park Plaza Caerdydd neithiwr (nos Iau 19 Ionawr) gan Jason Mohammad o BBC Wales/Cymru.
Dyma enillwyr y pedwar categori: Dim Gwastraff Llanandras o Bowys; y fenter ailgylchu o Landudno, Crest Co-operative; yr elusen o Gaerfyrddin Cerebra, sy’n rhoi cymorth i blant â chyflyrau sy’n ymwneud â’r ymennydd; a Chymru Ddiogelach o Gaerdydd, sy’n gweithio i helpu pobl deimlo’n fwy diogel yn eu bywydau pob dydd.
Roedd y grwpiau ymhlith 13 ar y rhestr fer a enwebwyd gan aelodau neu ddefnyddwyr gwasanaeth yn y categorïau canlynol:
· Gweithgarwch cyfathrebu gorau – i fudiadau sy’n defnyddio ffordd effeithiol neu arloesol o gyfleu eu neges
· Y Wobr Werdd – i fudiadau sydd â pholisi arloesol ar leihau eu hôl-troed carbon
· Gwobr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles – i fudiadau sydd wedi helpu pobl i fod yn hapusach ac iachach drwy waith ymyrraeth / ataliol
· Mudiad a Edmygir Fwyaf
Dywedodd Jonathan Levy, Prif Swyddog Gweithredu gyda Class Telecommunications: ‘Mae Class yn falch i noddi Gwobrau Trydydd Sector Cymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Drwy gefnogi’r gwobrau gallwn roi rhywbeth yn ôl i’r trydydd sector yng Nghymru, sy’n parhau i weithio’n eithriadol o galed, yn aml mewn ffyrdd arloesol, ar gyfer y cymunedau mae’n eu cynrychioli.’
Dywedodd Prif Weithredwr WCVA Graham Benfield OBE ei bod yn galonogol gweld cynnydd yn nifer a safon yr enwebiadau am y gwobrau, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
‘Wrth i’r dirwasgiad effeithio ar y trydydd sector yn arbennig o galed, mae’r mudiadau hyn wedi profi nad ydynt yn gadael i ansicrwydd ariannol rwystro eu gwaith gwych’, ychwanegodd.
‘Mae Gwobrau Trydydd Sector Cymru yn cyflawni’r dasg bwysig o dynnu sylw at gyraeddiadau’r grwpiau eithriadol hyn.’
Enillwyr Gwobrau Trydydd Sector Cymru 2012
Gwobrau Class am y Cyfathrebu Gorau: Dim Gwastraff Llanandras
Caiff Gwasanaeth Dim Gwastraff Llanandras a Norton ei redeg gan y gymuned gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harri, gyda’r nod o sicrhau bod llai o wastraff yn mynd i’w dirlenwi.
Mae’r prosiect dwy flynedd yma’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Gweithredu Dim Gwastraff Powys i weld pa mor agos all y gymuned ddod at gyrraedd y targedau ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ heriol i Gymru o greu 1.7% yn llai o wastraff y flwyddyn ac ailgylchu 70% o bob gwastraff erbyn 2025.
Ond ar ôl ddim ond 18 mis, mae’r gwasanaeth wedi chwalu’r ddau darged hwn gan leihau gwastraff gan 25%, a 75% o’r hyn sy’n weddill yn cael ei ailgylchu – sy’n cymharu gyda ddim ond 24% yn cael ei ailgylchu ar ddechrau’r prosiect. Mae 95% o’r gymuned yn cymryd rhan y prosiect hwn.
Mae Cyfathrebu, dan arweiniad Rheolwr y Prosiect David Clarke, wedi bod yn hanfodol wrth newid agwedd y gymuned at wastraff drwy nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â thrigolion.
Mae’r rhain wedi cynnwys gwneud gwastraff yn weladwy. Yn hytrach na mynd ag ef mewn lori fawr yn gynnar yn y bore, mae’r gwasanaeth yn defnyddio fflôt llaeth wedi’i drawsnewid i’w gasglu o ddim ond 250 o gartrefi pob dydd. Mae hyn yn golygu bod y tîm yn y strydoedd drwy’r dydd i ateb cwestiynau pobl.
Ac yn hytrach na chuddio mewn bag du, caiff y sbwriel tirlenwi ei gasglu mewn bag clir fel ysgogiad i dynnu’r botel olaf allan.
Fis Medi diwethaf cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yn ystod Pythefnos Dim Gwastraff, yn cynnwys cyhoeddwr yn rhoi gwybod i bob stryd faint oedd yn ei anfon i’w dirlenwi a allai gael ei ailgylchu, a sioe oleuni yn dangos ystadegau tirlenwi a wnaeth i Lanandras edrych fel Sgwâr Leicester am ddwy awr.
Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi dyfeisio eu mentrau cyfathrebu eu hunain, fel dosbarthu bagiau defnydd wedi’u hailgylchu i nodi bod tâl o 5c wedi’i gyflwyno am fagiau a ddefnyddir unwaith.
‘Drwy gyfathrebu, mae’r gymuned wedi meithrin gwell dealltwriaeth o sut i leihau eu gwastraff a pham ei fod mor bwysig, ac o ganlyniad maent wedi newid eu hymddygiad,’ meddai’r enwebwr Katy Anderson, Rheolwr Datblygu Dim Gwastraff gydag Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harri.
Y Wobr Werdd - Crest Co-operative
Mae’r fenter ailgylchu o Landudno yn cynnig cyfleoedd gwaith i bobl ddi-waith ac oedolion sydd ag anableddau dysgu, gan roi budd i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghonwy a Sir Ddinbych wrth ddarparu gwaith, sgiliau a phrydau bwyd i bobl sy’n byw mewn tlodi bwyd.
Ar ôl ei sefydlu ym 1998, mae Crest wedi dargyfeirio 55,000 tunnell o wastraff rhag mynd i’w dirlenwi, wedi helpu mwy na 900 o bobl i ddod o hyd i waith, wedi darparu 60,000 awr o waith gwirfoddol ac wedi dyfarnu 9,300 o gymwysterau i weithwyr, hyfforddeion a gwirfoddolwyr.
Fel un o dair menter gymdeithasol sy’n cael eu rhedeg gan y ganolfan gydweithredol, sefydlwyd rhwydwaith bwyd cymunedol cyntaf Cymru – FareShare Gogledd Cymru – ym mis Hydref 2010 gan lwyddo ers hynny i ddargyfeirio mwy na 77 tunnell o fwyd da o fewn ei ddyddiad rhag cael ei dirlenwi, gan roi gwerth £93,000 i grwpiau cymunedol.
Yn 2011, dyfarnwyd contract awdurdod lleol dwy flynedd i Crest i gasglu tecstilau o gartrefi 50,000 o drigolion ledled Conwy. Mae’n rhedeg siop gymunedol lle caiff tecstilau o safon dda eu gwerthu i greu cyfleoedd gwaith a gefnogir. Mewn blwyddyn yn unig, mae 200 tunnell o decstilau wedi’u dargyfeirio rhag cael eu tirlenwi.
Mae Crest hefyd yn gweithio gyda’r gymdeithas dai Cartrefi Cymru, mewn partneriaeth unigryw yn y DU, i achub deunyddiau gwastraff o dai rhag cael eu tirlenwi. Hyd yma, mae mwy na 4,000 o geginau a stafelloedd ymolchi wedi’u casglu, a’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u gwerthu yn y siop gymunedol.
‘O ganlyniad i’n mentrau ailgylchu mae cyfleoedd am swyddi wedi’u creu ar gyfer troseddwyr cyson a rhai dan 25 oed, ac mae wedi arwain at lansio’r prosiect ar gyfer pobl dros 50 eleni – gan eu helpu yn ôl i’r gweithle – a phrosiect y Porth sy’n gweithio gyda thenantiaid cymdeithas dai i fagu hyder a sgiliau,’ meddai Swyddog Cyhoeddusrwydd a Hyrwyddo Crest Anna Glover.
Y Wobr Iechyd: Cerebra
Elusen gofrestredig genedlaethol wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin yw Cerebra sy’n rhoi cymorth i blant gyda chyflyrau megis niwed i’r ymennydd, anhwylder niwrolegol, anableddau meddyliol a phroblemau datblygu – unrhyw beth o barlys yr ymennydd ac awtistiaeth i epilepsi ac ADHD.
Gwasanaeth ymchwil a dylunio yw Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) a sefydlwyd i helpu plant gydag anableddau i gael gafael ar gyfarpar arbenigol ac addasiadau nad ydynt ar gael i’w prynu’n hawdd.
Mae CIC yn cynnwys tîm bychan o beirianwyr a dylunwyr sydd ag arbenigedd mewn electroneg, dylunio a pheirianneg, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid y diwydiant ac elusennau eraill i sicrhau bod cynnyrch yn cael eu profi i’r safonau uchaf.
Mae rhieni’n cysylltu â’r CIC os oes angen rhywbeth ar eu plentyn nad yw eto ar gael i’w brynu, ac mae’r tîm dylunio’n mynd ati i’w wneud gydag arweiniad gan y teulu ynghylch at beth mae ei angen, galluoedd y plentyn, ayb.
Er enghraifft, cysylltodd rhieni Annie-May sy’n bum mlwydd oed – sy’n dioddef o barlys yr ymennydd – â CIC ynglyn â chludiant iddi gan nad oedd yn gallu cerdded ac yn gorfod symud o gwmpas ar ei phen-ôl. Dyfeisiodd y ganolfan ‘sedd sgŵt’, sef platform isel â phadin, gyda lle i’r ferch fach ddal ac olwynion castor cadarn.
‘Galluogodd Annie-May i symud o gwmpas y tŷ ar ras, oedd yn wych,’ meddai’r enwebwr, Swyddog Datblygu Corfforaeth/Ymddiriedolaeth Cerebra Sarah Robey. ‘Mae bellach yn saith oed ac yn defnyddio’r sedd o hyd. Mae ei rhieni wedi cysylltu â CIC yn ddiweddar i ddylunio sedd sy’n addas i’w defnyddio ar borfa.
‘Gall y cyflyrau sydd gan y plant rydym yn eu cefnogi olygu bod angen offer penodol neu gymhorthion symudedd i sicrhau bod y plant yn gallu cymryd rhan lawn yng ngweithgareddau’r gymdeithas a’r ysgol,’ Ychwanegodd Sarah. ‘Y prif nod yw creu cynnyrch gweithredol, esthetig ddeniadol sy’n helpu.
‘Mae’r CIC yn gweithio gyda mwy na 50 o deuluoedd pob blwyddyn, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant. Mae gan bob eitem a ddylunir ac a gaiff ei adeiladu neu ei addasu ystyr gwahanol i’r plentyn y mae wedi’i greu ar ei gyfer.’
Gwobr am y Mudiad a Edmygir Fwyaf: Cymru Ddiogelach
Sefydlodd Cymru Ddiogelach o Gaerdydd ei Uned Diogelwch Menywod yn 2002, gan greu’r gwasanaeth cyntaf o’i fath yn y wlad ac arloesi’r dull Asesu Risg Aml-Asiantaeth o fynd i’r afael â phroblemau trais yn y cartref. Bellach, mae’r dull hwn wedi’i wreiddio mewn gweithio’n aml-asiantaethol ym mhob ardal awdurdod lleol ar draws y DU.
Gyda chymorth gan Gymru Ddiogelach, mae’r prosiect StreetLife - a sefydlwyd gan wirfoddolwyr yn ymchwilio i brofiadau gweithwyr rhyw ar strydoedd Caerdydd – bellach yn brosiect a ariennir yn llawn sy’n darparu gwasanaethau cymorth ac eiriolaeth i rhwng 60-70 o weithwyr rhyw pob blwyddyn, yn ogystal â llety dros dro a ddarparwyd ar y cyd.
Mae’r prosiect Gwrth-Droseddau Casineb gan Gymru Ddiogelwch, sy’n cydnabod y broblem o ddiffyg ryportio troseddau casineb ar draws Cymru, wedi llwyddo i ddatblygu system ryportio ‘trydydd parti’ i helpu dioddefwyr a’u cyfeirio ymlaen at wasanaethau priodol. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb gydag ystod o fudiadau, yn cynnwys plant ysgol.
‘Mae’r prosiect yn unigryw gan ei fod yn darparu system Cymru gyfan, gan alluogi pob dioddefwr troseddau casineb i ryportio,’ meddai’r enwebwr, aelod o’r cyhoedd Alex Hicks. ‘Mae hefyd yn gwneud gwaith ataliol drwy ddysgu cyrsiau byr i fyfyrwyr ysgol, clybiau ieuenctid a gweithwyr y sector preifat a’r sector cyhoeddus.’
Sefydlwyd gwasanaeth Turnaround i Ferched yn 2007 mewn ymdrech i atal troseddwyr benywaidd rhag aildroseddu. Dyma’r prosiect cefnogi dewisol cyntaf i droseddwyr benywaidd yng Nghymru, yn cynnig amrywiaeth o help i fenywod ag anghenion cymhleth, ac mae’r gwasanaeth wedi’i ddyblygu gan asiantaethau ledled y wlad.
Mae Cymru Ddiogelach hefyd wedi sefydlu cyfres o brosiectau arloesol yn gweithio gyda phobl ifanc, yn cynnwys canolfan symudol i bobl ifanc Restart Bus, sy’n cynnig rhywle i bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hymylu a’u heithrio fynd iddo; y rhaglen rheoli dicter Less Stress, sy’n helpu pobl ifanc dan fygythiad o gael eu heithrio o’r ysgol; a chynllun Adeiladu Ein Dyfodol, a sefydlwyd i greu deialog rhwng cyflogwyr lleol a phobl ifanc o gymunedau BAMW (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) sy’n dioddef gwahaniaethu ac anhawster a hyfforddiant.
‘Credaf fod Cymru Ddiogelach yn unigryw wrth greu prosiectau newydd ac arloesol gyda’r bobl a gaiff eu heithrio fwyaf a’r rhai mwyaf anfodlon, gan wella’r broses o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau, gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau ac ymateb gyda newid go iawn,’ meddai Alex Hicks.